Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cadw llygad wrth i lanw ucha’r flwyddyn daro Cymru heddiw a fory.

Maen nhw’n gobeithio y bydd y tywydd yn ddigon tawel i osgoi llifogydd, ond fe fyddan nhw’n parhau i wylio rhag ofn.

Mae’r swyddogion yn cadw llygaid manwl ar lefelau’r môr, gwynt a thonnau gan y gallai “unrhyw ddirywiad” yn y tywydd arwain at lifogydd.

Cadw cysylltiad

Maen nhw mewn cysylltiad rheolaidd â’r Swyddfa Dywydd, medden nhw, ac yn derbyn adroddiadau newydd rheolaidd os bydd y tywydd yn newid.

Mae’r Asiantaeth hefyd yn edrych ar amddiffynfeydd llifogydd i wneud yn siŵr eu bod mewn cyflwr da.

Os yw pobol yn bryderus, fe ddylen nhw alw’r 0845 9 88 11 88 am y newyddion diweddara’ am eu hardal nhw. Mae’n bosibl hefyd cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd.

Llun: Logo llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd