Mae yna wahaniaeth mawr rhwng llwyddiant masnachol dwy ddinas fwya’ Cymru a’r gweddill, yn ôl adroddiad newydd am siopau gwag.

Mae llai o siopau gwag yng Nghaerdydd ac i raddau yn Abertawe, tra bod canolfannau eraill yng Nghymru’n diodde’.

Mae’r casgliad yna yn arolwg hanner blwyddyn y Local Data Company yn adlewyrchu’r rhaniad ehangach yng ngwledydd Prydain, rhwng De a Gogledd.

Trefi eraill yn dioddef

Mae nifer cymharol uchel o siopau gwag mewn dinasoedd a threfi fel Wrecsam, Casnewydd, Caerfyrddin, Bangor a Llandudno, yn ôl yr arolwg.

Yn ôl Matthew Hopkinson o’r cwmni gwybodaeth, mae cynnydd archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ar gyrion trefi’n rhannol gyfrifol am hynny.

Roedd y duedd i bobol fynd allan ar ddiwrnodau siopa hefyd yn ffafrio’r canolfannau mwy lle’r oedd digon o adnoddau, meddai wrth Radio Wales.

Llun: Canolfan siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd