Fe fydd rhaid i’r Llywodraeth wynebu dadl yn Nhŷ’r Cyffredin tros honiadau yn erbyn papur y News of the World a Chyfarwyddwr Cyfathrebu’r Prif Weinidog.
Fe gafodd y ddadl ei galw gan AS y Rhondda, Chris Bryant, sy’n credu ei fod ef ymhlith cannoedd o wleidyddion a ffigurau cyhoeddus a ddioddefodd wrth i’r papur hacio i mewn i negeseuon ffonau symudol.
Ac mae yna honiadau newydd yn erbyn y papur ac Andy Coulson, ei olygydd ar y pryd, a’r dyn sydd bellach yn gyfrifol am gysylltiadau cyhoeddus a phropaganda ar ran David Cameron.
Yn ôl papur y Guardian, mae un o gyn newyddiadurwyr profiadol y News of the World yn mynnu y byddai’r golygydd a’r “brêns y tu ôl i ymchwiliadau” yn “gwybod yn iawn” am yr arfer o hacio.
‘Anhygoel’
Mae’r cyn olygydd wedi gwadu ei fod yn gwybod ond, yn ôl Paul McMullan, y cyn ddirprwy olygydd erthyglau nodwedd, roedd hi’n anhygoel meddwl nad oedd yn gwybod.
Os nad oedd Andy Coulson yn gwybod am bob achos unigol, meddai, fe fyddai’n gwybod am y sefyllfa’n gyffredinol.
Bellach, yn ôl y Guardian, mae yna chwech o gyn newyddiadurwyr y papur sy’n dweud bod clustfeinio ar negeseuon ffôn wedi cynyddu yn nyddiau Andy Coulson.
Er mai bwriad y Blaid Lafur yw creu embaras i’r Prif Weinidog a’i orfodi i gael gwared ar ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu, fydd David Cameron ddim yn y Senedd heddiw ar gyfer y ddadl, ar ôl marwolaeth ei dad.
Llun: Siambr y Senedd lle bydd y ddadl heddiw