Mae arbenigwyr iechyd wedi rhybuddio y bydd rhagor o achosion o glefyd y Llengfilwyr yn dod i’r amlwg yn ardal Blaenau’r Cymoedd.

Maen nhw’n parhau i chwilio am darddiad clwstwr o achosion sydd eisoes wedi effeithio ar 12 o bobol ac efallai wedi lladd un wraig 64 oed.

Dyw’r clefyd ddim wedi cael ei gadarnhau yn ei hachos hi nac un achos arall – os byddan nhw, mae’n golygu y bydd yr un clwstwr yma’n fwy na’r holl achosion yng Nghymru mewn blwyddyn arferol.

Unedau diwydiannol

Ar hyn o bryd, mae swyddogion iechyd yn chwilio trwy unedau diwydiannol ar hyd yr A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, er mwyn ceisio dod o hyd i systemau dŵr neu system awyru a allai fod wedi achosi’r haint.

Mae’r gwaith yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a saith awdurdod lleol.

Math o niwmonia yw clefyd y Llengfilwyr ac mae’n gallu lladd pobol, yn enwedig rhai oedrannus neu rai sydd â chyflyrau iechyd eraill.

Llun: Ffatrioedd Blaenau’r Cymoedd