Fe fydd Plaid Cymru’n dweud heddiw ei bod am gynnig “addewid mentrus” i drawsnewid Cymru – er gwaetha’r toriadau gwario.
“Fydd y Blaid ddim yn gadael i amodau llym gael y gorau ar uchelgais yn yr amser anodd sydd o’n blaen,” meddai arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones, ar ddechrau eu cynhadledd yn Aberystwyth.
Gyda dim ond naw mis tan etholiadau nesa’r Cynulliad, fe fyddan nhw’n addo “trawsnewid Cymru, yn hytrach na dim ond ei rheoli”.
Ond, yn ystod y naw mis hwnnw, mae disgwyl refferendwm ar roi rhagor o hawliau deddfu i’r Cynulliad ac, yn ôl Ieuan Wyn Jones, mae hwnnw’n “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth”.
Maniffesto
Yn ôl y Blaid, mae ei maniffesto ar gyfer yr etholiadau eisoes yn cael ei baratoi ac fe fydd y gynhadledd yn gyfle i roi cip ar rai o’r syniadau.
Fe fydd y rheiny, meddai Ieuan Wyn Jones, “yn radical, uchelgeisiol, ac yn anad dim, wedi eu cynllunio i ateb yr her fawr sy’n ein hwynebu fel cenedl, nid yn unig dros y blynyddoedd nesaf ond trwodd at y ddegawd nesaf”.
Fe fydd y wraig gynta’ i fod yn Llywydd Plaid Cymru’n cymryd ei lle yn ystod y gynhadledd, wrth i’r Aelod o Senedd Ewrop, Jill Evans, gymryd lle Dafydd Iwan.
Problem yr etholiad
Y broblem i Blaid Cymru yn yr etholiadau yw’r ffaith fod y Blaid Lafur yn ennill tir yn y polau piniwn.
Mae rhai’n awgrymu y bydd hi’n ceisio ffurfio ei llywodraeth ei hun heb gymorth y Blaid mewn clymblaid.
Ond mae unrhyw ddewis arall yn anodd iawn – gan mai’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n gyfrifol am y toriadau’n San Steffan.
Mewn cyfweliad ym mhapur y Western Mail heddiw, mae Ieuan Wyn Jones yn awgrymu bod ‘clymblaid enfys’ gyda’r ddwy blaid honno yn llai a llai tebygol.
Llun: Ieuan Wyn Jones yn areithio (llun Plaid Cymru)