Mae’r syniad o gyflwyno’r system Americanaidd o ddedfrydu ar lofruddiaeth wedi cael cefnogaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron heddiw.

Dywedodd Keir Stramer QC ei fod yn cefnogi argymhellion y Comisiwn Cyfreithiol i gyflwyno’r system Americanaidd, a fydd yn golygu ymestyn y ddau gyhuddiad presennol am lofruddiaeth, i dri.

Yn y system newydd, fe fyddai tri dedfryd posib am lofruddiaeth – llofruddiaeth o’r radd gyntaf, llofruddiaeth o’r ail radd, a dynleiddiad.

O dan y system bresennol, mae achos o lofruddaieth yn disgyn yn syth i un o ddau gategori – dynleiddiad, neu lofruddiaeth – a fyddai gyfystyr â llofruddiaeth o’r radd gyntaf yn yr argymhellion newydd .

Cau’r bwlch

Yn ôl y Comisiwn Cyfreithiol , mae gormod o fwlch rhwng y ddau gategori hyn o safbwynt ymateb y cyhoedd i ‘label’ y cyhuddiad, ac o safbwynt y ddedfryd sy’n dilyn – gan fod dedfryd o lofruddiaeth yn gofyn am garchariad oes.

Mae’r cyfreithiau sy’n ymwneud â llofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif. Oherwydd hyn, mae ystyriaethau mwy diweddar fel cyflwr meddyliol a dylanwadau allanol ar droseddwyr wedi profi’n anodd yn y system fel ag y mae.

Fe fyddai’r system newydd yn llenwi’r bwlch rhwng y ddau ddedfryd bresennol, gan roi mwy o hyblygrwydd i farnwyr pan fod dedfryd oes yn rhy drwm, a chyhuddiad o ddynladdiad yn amherthnasol.

Rhoddodd yr Arglwydd Ganghellor Kenneth Clarke ei gefnogaeth i argymhellion y Comisiwn Cyfreithiol yn mis Gorffennaf.

Llun: Keir Stramer QC – AP Photo