Does neb yn gweithio mewn bron i chwarter o gartrefi Cymru yn ôl arolwg gyhoeddwyd heddiw.
Yn ôl arolwg y llywodraeth sy’n cymharu ardaloedd ar draws y Deyrnas Unedig, Cymru yw’r ail waethaf yn y tabl gan ddod yn agos iawn at y rhanbarth sydd ar frig y tabl sef yr ardal o gwmpas Newcastle yng Ngogledd Lloegr.
Bu’r Swyddfa Ystadegau yn cyfri’ y nifer o gartrefi ble nad oedd yr un oedolyn rhwng 16 a 64 yn gweithio rhwng Ebrill a Mehefin eleni.
Daw Cymru yn ail agos iawn i ogledd-ddwyrain Lloegr mewn cyfanswm yr hyn sy’n cael ei enw’n ‘cartrefi di-waith’, gyda 22.9%.
Mae hyn 3.7% yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Prydain.
Ymateb Llywodraeth Prydain
Dywedodd Chris Grayling, y Gweinidog Cyflogaeth, fod y ffigyrau cyffredinol yn “brawf pellach o’r modd y mae’r system bresennol yn methu ag ateb gofynion teuluoedd.”
“Mae’n adlewyrchiad anhygoel o raddfa diweithdra ar draws y Deyrnas Unedig : sefyllfa mae’r Llywodraeth presennol wedi ei etifeddu.”
Llun: Actual not Normal – KevinDooley ar Flickr