Mae tad y Prif Weinidog David Cameron wedi marw ar ôl cael strôc tra ar wyliau yn Ffrainc.

Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, fe fu Ian Cameron farw ychydig ar ol i’r Prif Weinidog gyrraedd yr ysbyty yn Ffrainc gyda’i frawd Alex a’i chwaer Clare.

Cafodd Cameron wybod y bore ‘ma fod ei dad yn ddifrifol wael ac fe benderfynodd ganslo’i ymddangosiad yn y sesiwn cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl siarad gyda meddygon lleol.

Roedd ei rieni hanner ffordd drwy wyliau pythefnos o hyd.

Fe gafodd Ian Cameron, 77 oed, ei eni gydag anabledd i’w goesau. Cafodd sawl llawdriniaeth i geisio sythu ei goesau a lladd y boen. Cafodd yrfa llwyddiannus fel brocer stoc.

Mewn cyfweliad gydag ITV cyn yr etholiad cyffredinol, fe ddisgrifiodd David Cameron ei dad fel “arwr mawr” iddo.

Llun: Cameron a’i dad gan AP Photo