Fe fydd artist o Bontypridd yn dangos y nifer mwyaf o luniau y mae erioed wedi’u harddangos yng Nghymru yn Oriel Plas Glyn y Weddw dros y penwythnos.

Fe fydd Karl Davies, sy’n wreiddiol o Gasnewydd ond bellach yn gweithio fel artist ac yn athro Celf ym Mhontypridd, yn arddangos 46 o weithiau newydd mewn arddangosfa gyda’r artistiaid Ishbel McWhirter, Emily Gregory-Smith, Kim Atkinson a Noelle Griffiths.

“Mae’n gyfle i mi gyflwyno fy ngwaith i’r Gogledd,” meddai Karl Davies

Fe ddywedodd wrth Golwg360 ei fod yn ceisio cadw  cydbwysedd rhwng gweithiau sy’n darlunio Cymru wledig a diwydiant de Cymru.

Dywedodd hefyd fod “Bryn Terfel wedi prynu cwpwl o ddarnau” cyn i’r arddangosfa agor – ar ôl ymweld â’i stiwdio tua mis yn ôl. Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Dudley Newbury, meddai.

“Fe es i Goleg Celf yn Cheltenham ddim yn gwybod beth oedd yn fy ysbrydoli’n iawn. Fe gymrodd flynyddoedd i mi sylweddoli bod testun fy ngwaith o’m hamgylch i gyd yng Nghymru,” meddai.

“Doedd dim rhaid i mi lunio celf egsotig a rhoi sioc i bobl.”

Cyngor doeth Kyffin

Er mai dim ond gweithiau tirlun mawr oedd yr artist yn eu creu i ddechrau, yn 2006 fe benderfynodd gynnwys pobl a thai ac fe anfonodd samplau o’i waith i Kyffin Williams.

“Ro’ ni wedi cael diwrnod drwg yn yr ysgol pan ges i lythyr yn ôl gan Kyffin Williams yn dweud ei fod wedi derbyn fy ngwaith ac yna cefais sgwrs gydag ef dros y ffôn.

“Gofynnodd i mi os ro’ ni’n tynnu llun … bryd hynny doeddwn i ddim yn tynnu llun jest yn peintio’n syth ar gynfas.

“Ond ers y sgwrs gyda Kyffin, dwi yn creu brasluniau gyntaf. Wna i byth anghofio ei gyngor.”

Fe gafodd Karl Davies ei eni yng Nghasnewydd yn 1971. Mae wedi gwerthu gwaith yn Awstralia, Ewrop, Hong Kong a’r Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar gyfres o 50 o weithiau newydd ar gyfer arddangosfa yn Langham Gallery, Bloomsbury, Llundain fydd yn agor ym mis Tachwedd.

Fe fydd gwaith Karl Davies yn cael ei arddangos yn Oriel Plas Glyn y Weddw o ddydd Sul, Medi 12 ymlaen.

House and Moon gan Karl davies ( gan Oriel Plas Glyn y Weddw)