Fe allai athrawon golli £74,000 yr un o’u pensiynau oherwydd penderfyniad dadleuol Llywodraeth San Steffan i newid y ffordd o’u cyfrifo.

Yn ôl adroddiad gan undeb athrawon NASUWT mae mesur pensiynau yn ôl Mynegai’r Prisiau Manwerthu (RPI) yn hytrach na’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn achos o “ysbeilio noeth” ar bensiynau gweithwyr y sector cyhoeddus.

Gan selio’r ffigurau ar y gyfradd RPI bresennol o 4.8% a chyfradd CPI o 3.1%, fe ddywedodd yr undeb y byddai athro gyda phensiwn blynyddol o £10,000 yn colli £74,000 dros chwarter canrif.

Barn yr undeb

“Mae’r newid yma’n gwneud i weithwyr y sector cyhoeddus dalu’r pris am drachwant a gweithredoedd anystyriol y sector ariannol,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Chris Keates.

“Mae athrawon wedi gwneud eu cynlluniau ariannol ar gyfer ymddeol ar sail y cysylltiad hir dymor a hanesyddol gyda’r RPI”

“Mae newid y rheol i athrawon sydd eisoes wedi ymddeol, yn ogystal ag i athrawon presennol ond hefyd i’r athrawon sydd wedi ymddeol yn warthus.”

Llun: Athro wrth ei waith