Mae disgwyl rhagor o brotestiadau heddwch yn erbyn Tony Blair wrth iddo fynd i barti i ddathlu cyhoeddi ei hunangofiant.

Fe fydd y Stop the War Coalition yn picedu’r digwyddiad yn oriel y Tate Modern yn Llundain, gan gyhuddo’r cyn Brif Weinidog o glodfori’r rhyfel yn erbyn Irac.

Fe gafodd wyau ac esgidiau eu taflu ato pan aeth i arwyddo’i lyfr mewn siop yn Nulyn ac fe ganslodd sesiwn arwyddo arall yn Llundain oherwydd y tebygrwydd o wrthdystiad.

Yn ôl Tony Blair, doedd e ddim eisiau achosi anhwylustod i bobol na mynd ag amser yr heddlu i reoli protestiadau posib.

Roedd un artist ddoe yn cyhuddo’r Tate Modern o roi nawdd i “droseddwyr rhyfel” ond, yn ôl llefarydd ar ran yr oriel ei hun, nid nhw sy’n trefnu’r digwyddiad. Mae ystafelloedd ar gael yn yr oriel i’w llogi.

Llun: Y brotest yn Nulyn ddydd Sadwrn (Gwifren PA)