Mae rhai o benaethiaid S4C yn Llundain heddiw yn siarad gydag aelodau seneddol yn wyneb bygythiad i dorri’n llym ar arian y sianel.
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, hefyd yn gobeithio cwrdd â chynrychiolwyr o Adran Dreftadaeth y Llywodraeth yn ystod yr wythnosau nesa’.
Ond mae disgwyl y bydd y cyhoeddiad am doriadau gwario’n cael ei wneud o fewn llai na phythefnos.
Y disgwyl yw y bydd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad yn cael cyfarfod gyda’r gweinidog cyfatebol yn Llundain ym mis Hydref.
Cwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin
Fe fydd un o ASau Plaid Cymru hefyd yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i ystyried cyfraniad S4C i economi Cymru.
Fe fydd Hywel Williams yn gofyn i Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan pa drafodaethau y mae hi wedi ei gael ar y mater.
“Cyfarfodydd briffio” sy’n digwydd heddiw, meddai llefarydd ar ran y sianel, ac mae cyfarfodydd o’r fath yn “digwydd yn rheolaidd” gydag ASau ac ACau.
Llun: Cheryl Gillan yn wynebu cwestiynau heddiw (Gwifren PA)