Mae’r diffoddwyr wedi bod yn ymladd tân mewn ffatri cydrannau ceir yn Abertawe dros nos.
Roedd yna bryderon y gallai’r fflamau gyrraedd cemegau sy’n cael eu cadw hynny ond mae hynny wedi ei atal.
Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod y diffoddwyr yn llwyddo i reoli’r fflamau yn ffatri Linamar.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i hen waith Visteon ychydig ar ôl hanner nos.
Dechrau mewn gweithdy
Fe ddechreuodd y tân mewn gweithdy, lle mae hylifau yn cael eu cludo o’r ardal gynhyrchu, ac fe ledaenodd i rannau eraill o’r ffatri.
Roedd yna bedair injan dân a 30 o ddiffoddwyr ar y safle ar un adeg. Roedd cynrychiolwyr o’r Asiantaeth Amgylcheddol hefyd wedi eu galw i gynorthwyo.
Mae’r gwasanaeth yn dweud nad oes unrhyw risg i’r cyhoedd yn y ffatri, sydd ar fin cau.
Llun: Ffatri Linamar (Sitemur – CCA 3.0)