Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog yn wynebu holi caled am rôl ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu yn helynt clustfeinio’r News of the World.

Ar ei ddiwrnod cynta’ ers dod yn ôl wedi cyfnod tadolaeth, fe fydd David Cameron yn wynebu sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog ynghanol rhagor o straeon newydd am yr helynt.

Mae un o newyddiadurwyr y News of the World wedi dweud wrth bapur y Guardian ei fod yn fodlon rhoi tystiolaeth yn erbyn y cyn-olygydd, Andy Coulson, sydd bellach yn gyfrifol am gyfathrebu yn rhif 10 Downing Street.

Yr honiad yw mai Ross Hale oedd yn gyfrifol am drawsgrifio’r negeseuon – roedd cyn ohebydd arall, Sean Hoare, eisoes wedi cyhuddo Coulson o fod yn rhan o’r cynllwyn.

Ymchwiliad arall

Mae’r Pwyllgor Materion Cartref yn Nhŷ’r Cyffredin hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw am gynnal ymchwiliad arall i’r honiadau bod y News of the World wedi hacio i mewn i negeseuon ar ffonau symudol nifer mawr o wleidyddion ac enwogion.

Mae llefarwyr ar ran y papur ei hun wedi gwadu’r honiadau ac mae Andy Coulson ei hun wedi dweud nad oedd yn gwybod dim am yr arfer.

Fe gafodd y cyhuddiadau eu hatgyfodi’r wythnos ddiwetha’ gan bapur y New York Times yn yr Unol Daleithiau ac mae Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, John Yates, wedi dweud ei fod yn debyg o holi Andy Coulson.

Ym mis Ionawr 2007, fe gafodd gohebydd brenhinol y News of the World a ditectif preifat eu carcharu am glustfeinio ar negeseuon ffôn symudol aelodau o’r teulu brenhinol.

Llun: David Cameron yn siarad yn y Senedd (Gwifren PA)