Mae’r Tŷ Gwyn ac Adran Dramor yr Unol Daleithiau wedi condemnio bwriad gweinidog yn Florida i losgi copïau o feibl y Moslemiaid, y Coran.
Ac mae Twrnai Cyffredinol y wlad hefyd wedi dweud bod y cynllun i gynnal “Diwrnod Llosgi’r Coran” ddydd Sadwrn yn “wirion a pheryglus”.
Ond mae’r gweinidog 58 oed y tu cefn i’r syniad – Terry Jones – yn dweud ei fod yn benderfynol o barhau gyda’r brotest i gofio am yr ymosodiad ar ddau dŵr Efrog Newydd ar 11 Medi.
“I ba raddau yr yden ni am gamu’n ôl? Sawl tro yden ni am gamu’n ôl?,” meddai’r gweinidog ar eglwys y Dove World Outreach Center, sydd wedi cyhoeddi cyn hyn mai Islam yw “crefydd y diafol”.
“Efallai ei bod yn amser anfon neges at radicaliaid Islam na fyddwn ni ddim yn godde’u hymddygiad,” meddai, gan ychwanegu ei fod wedi derbyn bygythiadau yn erbyn ei fywyd a’i fod bellach yn cario dryll.
Hillary Clinton yn condemnio
Eisoes, fe rybuddiodd y Tŷ Gwyn a phennaeth byddin yr Unol Daleithiau yn Afghanistan y byddai’r weithred yn arwain at ddial yn erbyn milwyr Americanaidd.
Neithiwr, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton, wrth ginio i Foslemiaid ei bod hithau’n condemnio’r brotest.
“Dw i wedi cael fy nghalonogi,” meddai, “gan y beirniadu clir a diamwys ar y weithred amharchus a chywilyddus hon gan arweinwyr crefyddol America o bob crefydd.”
Llun: Terry Jones a’i slogan ‘gwirion a pheryglus’ (AP Photo)