Mae awdurdodau iechyd a saith cyngor sir yn cydweithio i geisio dod o hyd i ffynhonnell achosion o glefyd y llengfilwyr ym Mlaenau’r Cymoedd.

Y gred yw bod y salwch eisoes wedi lladd un wraig 64 oed a fu farw ddydd Llun – hi yw un o dri achos posib ond mae 11 arall eisoes wedi eu cadarnhau.

Mae’r clefyd yn fath o niwmonia, sy’n gallu bod yn farwol, yn enwedig ymhlith pobol oedrannus neu rai sy’n dioddef o gyflwr iechyd arall.

Mae’n cael ei ledaenu mewn gwlybaniaeth yn yr awyr ond, yn ôl yr arbenigwyr, dyw e ddim yn cael ei drosglwyddo o un person i’r llall.

Systemau awyru

Yn aml, fe fydd clwstwr o achosion yn cael ei achosi gan broblemau gyda systemau awyru neu ddwr mewn adeiladau cyhoeddus.

Mewn ysbyty y cafwyd y clwstwr mawr cynta’ yng ngwledydd Prydain, pan laddwyd bron 30 o bobol yn y Midlands.

“Mae ymchwiliadau’n parhau i ffynhonnell bosib yr achosion,” meddai llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. “Cafodd gwybodaeth ei dosbarthu i feddygon teulu yn yr ardal yn rhoi cyngor ar yr hyn i’w wneud os oes symptomau gan eu cleifion.”

Fe gafodd cyfarfod brys o arbenigwyr o sawl disgyblaeth ei alw, a hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Chaerdydd a saith awdurdod lleol – Caerdydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy.

Llun: O daflen am y clefyd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch