Er gwaetha’r holl siarad, fe fethodd batiwr Lloegr, Kevin Pietersen, yn drychinebus yn erbyn Morgannwg, ond fe aeth ei dîm ymlaen i gyrraedd sgôr sylweddol.

Mae hon yn gêm dyngedfennol i’r Cymry yn erbyn Surrey – os byddan nhw’n ennill, fe fyddan nhw’n sicr o’u lle yn Adran Gyntaf Pencampwriaeth LV=.

Y troellwr Dean Cosker oedd bowliwr mwya’ llwyddiannus Morgannwg wrth i’r Saeson gyrraedd 324 am 6 erbyn diwedd y chwarae ar y diwrnod cynta’ o bedwar yn yr Oval.

Fe gipiodd bedair wiced am 40 o rediadau gan gynnwys Pietersen a gafodd ei ddal coes o flaen am 0 wrth wynebu’i ail belen.

Ef a gymerodd wiced y batiwr enwog arall, Mark Ramprakash, am 40, ond roedd yna 69 i Roy a 96 i Hamilton-Brown.

James Harris a Mark Cosgrove a gymerodd y ddwy wiced arall i Forgannwg, a fydd yn chwilio am wicedi cynnar bore fory er mwyn rhoi gobaith o ennill.

Llun: Dean Cosker – y mwya’ llwyddiannus o’r bowlwyr