Mae prosiect yn cael ei lawnsio heddiw i geisio gwarchod coedwig law yn Affrica sydd yr un maint â Chymru.
Fe fydd Tywysog Cymru yn lansio’r fenter yng Ngerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin heddiw.
Mae’r Tywysog ar daith trwy Brydain i hyrwyddo achosion amgylcheddol, ac fe fydd yr ymgyrch yma’n rhan o fenter i geisio arbed ardaloedd enfawr o goedwigoedd glaw yn Affrica.
Fe ddywedodd rheolwr prosiect Size of Wales, Hannah Scrase bod ardal o faint Cymru yn aml yn cael ei defnyddio i ddangos graddfa dinistr y coedwigoedd law.
“Mae’r prosiect yn annog pobl i helpu gwarchod ardal o goedwig law yr un maint â Chymru,” meddai Hannah Scrase.
“Trwy warchod dwy filiwn hectar o goedwig law, rydym yn gobeithio creu cysylltiadau parhaol gyda phrosiectau coedwigoedd yn Affrica.”
Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod wrth ei fodd yn gweld bod Cymru yn arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn dinistrio coedwigoedd law.
LLUN : Coedwig Law gan RevervadeCoches.com ar Flikr.