Mae capten Morgannwg, Jamie Darlymple wedi cael ei ddewis yng ngharfan 14 dyn y Dreigiau ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Surrey fory.
Fe fethodd y capten y gêm gyfartal yn erbyn Sussex ar ôl iddo dorri ei fys yn erbyn Middlesex.
Ond mae Darlymple yn ôl ar gyfer y gêm olaf-ond-un wrth i Forgannwg dargedu dyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesa’.
Pe bai rhai canlyniadau yn mynd eu ffordd nhw, fe allai Morgannwg sicrhau dyrchafiad gyda gêm yn weddill.
Ond fe fyddai’n rhaid i’r Dreigiau sicrhau buddugoliaeth dda yn erbyn Surrey yn The Oval yn ogystal â Swydd Caerwrangon yn colli i Middlesex a Swydd Caerloyw yn colli yn erbyn Swydd Caerlŷr.
Fe fydd Morgannwg yn awyddus i ail adrodd eu perfformiad gwych yn The Oval llynedd lle sgoriwyd 702/8. Fe sgoriodd pedwar chwaraewr Morgannwg cant yn ystod y batiad a sicrhaodd ail sgôr uchaf yn hanes y clwb.
Carfan Morgannwg
Gareth Rees, Mark Cosgorve William Bragg Tom Maynard Ben Wright, Jamie Darlymple, Jim Allenby, Mark Wallace, James Harris, Robert Croft, Dean Cosker David Harrison, Huw Waters, William Owen.