Mae cyn ymosodwr Cymru, John Hartson wedi dweud y bydd ganddo ddiddordeb i hyfforddi’r tîm rhyngwladol os bydd John Toshack yn ymddiswyddo.
“Pe bai’r swydd yn cael ei chynnig i mi, yn amlwg, fe fyddai’n rhaid i mi ei hystyried o ddifri’,” meddai wrth talkSPORT.
“Mae yna un neu ddau o ymgeiswyr sydd o ’mlaen i, ac efallai y bydd rhaid i mi aros am fy nghyfle ond fe fydden i yn ei derbyn yn sicr. Fe fydden i’n wirion i beidio cymryd y cyfle.”
Mae Hartson, sy’n 35 oed wedi bod yn brwydro yn erbyn canser dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fe sgoriodd 14 gôl mewn 51 gêm i Gymru rhwng 1995 a 2005, ond does ganddo ddim profiad o reoli tîm.
Dim profiad? ‘Dim problem’
Ddylai hynny ddim bod yn broblem, meddai, gan sôn am y cyn reolwr, Mark Hughes, a ddaeth i’r swydd heb unrhyw brofiad ymlaen llaw.
Fe bwysleisiodd nad oedd ganddo ddim personol yn erbyn John Toshack, sy’n “arwr” iddo, ond roedd yn credu y dylai fod wedi mynd ar ôl i Gymru fethu â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd eleni.
Mae disgwyl i Toshack ymddiswyddo ar ôl treulio ddoe yn cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn y pencadlys yng Nghaerdydd.
Colli
Mae cyn reolwr Real Madrid wedi bod wrth y llyw ers mis Tachwedd 2004, ac mae’n teimlo na all arwain y tîm ymhellach ar ôl colli i Montenegro nos Wener.
Ond ar hyn o bryd does dim sicrwydd pryd y bydd Toshack yn rhoi’r gorau i’w swydd gyda sïon ei fod naill ai am orffen yn syth neu’n fodlon parhau tan fod olynydd wedi’i benodi.
Ryan Giggs, Brian Flynn a Mark Bowen yw’r ffefrynnau cynnar i gymryd yr awenau.
Cliciwch yma am ddadansoddiad o’r ffefrynnau ar gyfer y swydd ar y blog.
Llun: John Hartson