Gêm yn llawn cyffro o’r dechrau i’r diwedd. Aberaeron ar y blaen 1-0 ar hanner amser a Bargod yn dihuno o’r diwedd yn yr ail hanner a dod yn gyfartal o’r smotyn .
Tair munud cyn diwedd y gêm Mathew Dance yn rhoi Bargod ar y blaen. Ond heb unrhyw reswm fe chwaraeodd y dyfarnwr pymtheg munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm gydag Aberaeron yn dod yn gyfartal o’r smotyn gyda’r gic olaf .
Sgôr digon teg yn y diwedd ond marciau gwael ac oriawr newydd sydd yn gweithio i’r dyfarnwr.