Roedd dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o ladrad gwerth £40,000 o stordy wedi gwrthod rhoi tystiolaeth mewn cwest i farwolaeth dau ffrind a laddwyd yn yr un digwyddiad.
Fe fu farw Trevor Davies, 20, a David Cooper, 24, o Rhymni, Caerdydd, ar ôl cael eu taro gan drên – y gred yw eu bod yn dianc ar feiciau cwad ar ôl dwyn o stordy.
Fe glywodd y cwest dwbl bod y trên yn teithio ar gyflymder o tua 70 milltir yr awr a’i fod bron â hollti’r beic yn ddau.
Fe ddaeth parafeddygon o hyd i gyrff y ddau ddyn eu canfod ar y brif linell rhwng Caerdydd a Llundain, yn agos at storfa Go Outdoors ar Ffordd Casnewydd. Fe ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach bod rhywrai wedi torri i mewn yno a dwyn.
Cyhuddo
Mae Liam Xeureb, 22, ac Anthony Thomas, 23, o Gaerdydd wedi cael eu cyhuddo o gymryd rhan yn y lladrad yn ogystal â pheryglu diogelwch ar y rheilffyrdd. Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau ac yn wynebu achos llys yn hwyrach yn y mis.
Roedd y ddau yn y cwest, ond fe wrthodon nhw ateb cwestiynau crwner Caerdydd, Mary Hassall, gan honni y gallai ateb y cwestiynau beryglu eu hachos.
Fe benderfynodd y rheithgor bod marwolaethau Trevor Davies a David Cooper yn ddamweiniol.
Llun: Rheilffordd ger Caerdydd (Gwifren PA)