Mae cyn-benaethiaid y BBC yng Nghymru wedi beirniadu’r Gorfforaeth yn llym am fethu ag ystyried dyfodol ei gwasanaethau yng Nghymru.
Fe ddaeth yn amlwg fod pedwar o gyn Reolwyr BBC Cymru – gan gynnwys y diweddar Owen Edwards – wedi bod yn anfon llythyrau protest at Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Michael Lyons.
Mae angen i’r BBC wneud asesiad llawn o’i holl waith yng Nghymru, gan gynnwys maint a safon y gwasanaethau a faint o arian sydd ar gael ar eu cyfer.
Os na fydd hynny’n digwydd, meddai’r llythyr diweddara’ gan y tri o’r cyn Reolwyr, fe fydd gwasanaethau’r BBC yng Nghymru “mewn peryg mawr” yn ystod y trafodaethau nesa’ tros faint y drwydded deledu.
Mae’r tri – Geraint Stanley Jones, Geraint Talfan Davies a Gareth Price – yn dweud bod darlledu cyhoeddus yng Nghymru eisoes wedi diodde’, gyda chwalfa gwasanaethau ITV a chwymp o 18% yng nghynnyrch teledu BBC Wales.
Beirniadaeth y cyn Reolwyr
Roedden nhw ac Owen Edwards wedi condemnio Arolwg Strategaeth y BBC am beidio â sôn o gwbl am wasanaethau’r Gorfforaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Wrth ymateb, roedd yr Ymddiriedolaeth wedi “gwneud pethau’n waeth” trwy gamddeall y feirniadaeth – yn ôl y cyn Reolwyr, roedd hi’n ymddangos bod yr Ymddiriedolaeth yn ceisio osgoi’r pwnc pwysica’ i ddarlledu yng Nghymru.
Wrth ateb y llythyrau, fe ddywedodd Michael Lyons bod yr Arolwg Strategaeth yn sôn am wella safon a hynodrwydd rhaglenni’r BBC ar gyfer gwledydd Prydain i gyd ac fe fyddai creu strategaeth ar wahân i Gymru’n “rhy gymhleth”.
Llun: Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC (Llun: BBC)