Mae siaradwyr Cymraeg eisiau gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau yn yr iaith, yn ôl ymchwil gan Lais Defnyddwyr Cymru.
Ond mae yna bethau sy’n eu rhwystro nhw rhag gwneud hynny – gan gynnwys diffyg hyder a diffyg hyrwyddo.
Oherwydd hynny, medden nhw, fe fydd rhaid i’r Comisiynydd Iaith newydd fod yn fodlon gwrando ar yr hyn y mae’r bobol yn dymuno’i gael.
Y disgwyl yw y bydd y swydd newydd yn cael ei chreu gan y Mesur Iaith o fewn y misoedd nesa’ ac fe fydd yn gyfrifol am benderfynu pa lefel o wasanaethau Cymraeg fydd ar gael, yn benna’ yn y sector cyhoeddus.
“Dim ond os bydd Comisiynydd cyntaf y Gymraeg yn wrandäwr da y bydd yn llwyddo,” meddai’r Llais Defnyddwyr ar ôl gofyn i siaradwyr Cymraeg am eu barn nhw.
Casgliadau’r ymchwil
- Mae 84% o siaradwyr Cymraeg sydd heb fod yn gwbl rugl yn dweud nad ydyn nhw’n ddigon hyderus i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg.
- Mae angen gwasanaethau sydd wedi eu teilwra at ddymuniadau pobol – cael rhywun i siarad Cymraeg â nhw yw’r peth pwysica’, yn ôl siaradwyr Cymraeg rhugl.
- Roedd llawer yn dweud bod eisiau hyrwyddo gwasanaethau’n well.
- Awdurdodau lleol sy’n cael y ganmoliaeth fwya’ am wasanaethau Cymraeg.
Meddai’r Llais
“Mae siaradwyr Cymraeg yn dweud eu bod am ddefnyddio mwy ar wasanaethau Cymraeg nag y maen nhw mewn gwirionedd. Felly, mae’n amlwg bod rhwystrau cudd sy’n atal pobol rhag cael gafael ar wasanaethau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Bydd angen i’r ddeddfwriaeth – a’r Comisiynydd – fynd i’r afael â nhw.” – Rebecca Thomas, Uwch Eiriolwr Polisi gyda Llais Defnyddwyr Cymru.
Llun: Awdurdodau lleol – fel Cyngor Gwynedd – sy’n cael eu canmol am eu gwasanaethau.