Fe lwyddodd y Llywodraeth glymblaid i ddod tros eu gwrthryfel posib cynta’ wrth symud ymlaen gyda’r Mesur i dorri ar nifer seddi seneddol a newid y ffordd o bleidleisio.
Fe gafodd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol fwyafrif o 59 ar ôl Ail Ddarlleniad y Mesur yn Nhŷ’r Cyffredin ond roedd deg o’r Torïaid wedi pleidleisio yn erbyn.
Roedd yna arwyddion hefyd y bydd yna ddadlau rhwng dwy ochr y glymblaid pan ddaw’r refferendwm ar gael trefn y Bleidlais Amgen – AV – mewn etholiadau seneddol.
Roedd nifer o Geidwadwyr wedi condemnio’r bwriad ac amryw yn beirniadu’r Llywodraeth am wario £100 miliwn ar gynnal y refferendwm ei hun.
Fe ofynnodd un faint o nyrsys canser neu athrawon anghenion arbennig y byddai’n bosib eu cael am yr arian; yn ôl un arall, roedd gwario ar refferendwm ynghanol argyfwng ariannol yn debyg i Nero’n canu ffidil pan oedd Rhufain yn llosgi.
Adfer ffydd
Mae AV – sy’n cael ei ystyried yn gam bach tuag at bleidleisio cyfrannol – yn bwnc pwysig iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, oedd yn agor y ddadl ddoe.
Fe ddywedodd y byddai gweithredu’r Mesur yn adfer ffydd y bobol yn y drefn o ethol Aelodau Seneddol. Mae pasio’r Ail Ddarlleniad yn golygu bod y Mesur yn cael ei basio o ran egwyddor ac y bydd yn cael ei ystyried yn fanwl.
Roedd ASau Llafur Cymru ac aelodau Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r Mesur oherwydd bwriad i dorri nifer y seddi seneddol yma ac oherwydd y bwriad i gynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad.
Pôl piniwn
Mae’r pôl piniwn diweddara’n dangos bod y Democratiaid wedi atal y cwymp yn eu cefnogaeth – er bod llawer o’u cefnogwyr yn yr etholiad diwetha’ bellach yn cefnogi Llafur.
Yn ôl arolwg ComRes i bapur yr Independent, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 18%, y Ceidwadwyr ar 38% a Llafur ar 34% – ond mae 22% o bleidleiswyr y Democratiaid bellach yn cefnogi Llafur.
Llun: Nick Clegg