Mae cystadleuaeth rhwng yr enwadau Cymraeg yn “afiach” ac yn bygwth lladd Anghydffurfiaeth Gymraeg, yn ôl Llywydd yr Hen Gorff.

Yn ôl Gwenda Richards, mae hunanoldeb yn arwain at genfigen a chynnen, ac mae hynny i’w weld ymysg Cristnogion ac eglwysi Cymru.

Mae blwyddyn y Parchedig Gwenda Richards o Gaernarfon yn llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn dod i ben heno, a bydd yn traddodi ei hanerchiad ffarwel yng Nghymanfa Gyffredinol yr enwad yn Llanbedr Pont Steffan.

“Trasiedi”

“Trasiedi fawr Anghydffurfiaeth yng Nghymru yw’r agwedd gystadleuol afiach sydd wedi ffynnu rhwng Cyfundebau a’i gilydd a rhwng capeli a’i gilydd a hyd yn oed rhwng aelodau a’i gilydd,” meddai.

“Rydan ni ers dechrau’r ganrif ddiwetha’ wedi byw ar gystadleuaeth – ac mi fentra’ i ychwanegu mai cystadleuaeth yn esgor ar genfigen ac ystyfnigrwydd ydi’n tranc ni.”

Rhagor o’r araith

Fe fydd Gwenda Richards, sydd wedi body n arwain 30,000 o aelodau mewn 700 o eglwysi, yn dadlau fod modd goresgyn y problemau.

“Fel Eglwys, mae ganddon ni eiddo gwerthfawr, sef ein capeli a’n tai capeli a’n colegau. Yr hyn sy’n bwysig ydi ein bod ni’n cofio mai eiddo Duw ydi’r cyfan, gan gynnwys ni ein hunain, ac mai cyfryngau yn ei law i gyflawni ei waith ar y ddaear yw’r cyfan oll.

“Mae yna flaenoriaid a lleygwyr yn ein heglwysi ni sydd wedi rhoi oes o wasanaeth diflino i gynnal eglwys Iesu Grist ac yn parhau i wneud hynny.

“Hebddyn nhw a’u llafur cyson a diflino, fyddai llawer iawn o’r gwaith sy’n digwydd ddim yn bosib. Ac mae’r gwaith ar lawr gwlad yn anodd.

Llun: Gwenda Richards