Mae’r Gymraes, Julia Gillard, wedi cadw ei lle’n Brif Weinidog Awstralia.

Fe lwyddodd y gwleidydd, a anwyd yn y Barri ym Mro Morgannwg, i ddenu cefnogaeth dau o’r tri AS annibynnol a’r un AS Gwyrdd er mwyn creu llywodraeth leiafrifol.

Mae cefnogaeth y tri yn ddigon i roi cefnogaeth 76 o aelodau, un yn fwy na’r trothwy, ac mae’n golygu mai hi yw’r wraig gynta’ i gael ei hethol yn Brif Weinidog Awstralia.

Ond cael a chael oedd hi ar ôl i Julia Gillard gamblo trwy fynd am etholiad yn union ar ôl iddi ddisodli ei rhagflaenydd Kevin Rudd mewn cyrch gwleidyddol cyflym.

Colli cefnogaeth

Fe gollodd Llafur gefnogaeth yn y bythau pleidleisio a doedd gan yr un o’r ddwy blaid fawr – Llafur a’r glymblaid Geidwadol – ddim digon o aelodau i ffurfio llywodraeth.

Ar ôl mwy na phythefnos o drafod, mae’n ymddangos mai’r hyn a drodd y fantol o ran yr ASau annibynnol oedd polisïau’r Blaid Lafur ar ehangu band eang i ardaloedd gwledig ac ymladd newid hinsawdd.

Julia Gillard yw’r ail Brif Weinidog Cymreig yn Awstralia – yn dilyn William Morris Hughes adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe gafodd hi ei geni yn y Barri ond fe ymfudodd y teulu pan oedd yn blentyn bach.

Llun: Julia Gillard (AP Photo)