Fe fydd yn rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru arbed bron £400 miliwn rhwng hyn a diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae’r BBC wedi crynhoi ffigurau o’r saith Bwrdd Iechyd a’r tair Ymddiriedolaeth yng Nghymru a nodi eu bod am orfod torri £380 miliwn.
Roedden nhw’n dyfynnu un o benaethiaid Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, er enghraifft, sy’n wynebu toriadau o £5 miliwn y mis.
Maen nhw, fel nifer o’r Ymddiriedolaethau eraill, yn bwriadu torri’r arian trwy ddefnyddio llai o asiantaethau a gwasanaethau locwm a chwilio am ‘arbedion effeithlonrwydd’.
Yn ôl Radio Wales, roedd un arall o benaethiaid y gwasanaeth wedi dweud mai dyma’r her ariannol fwyaf yn eu hanes.
Llun: Theatr mewn ysbyty (Trwydded GNU)