Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud y bydd yn datgelu ei gynlluniau am y dyfodol o fewn y mis nesa’.
Mae cytundeb presennol y gŵr o Seland Newydd yn dod i ben ar ôl Cwpan y Byd 2011, ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnal trafodaethau dros ymestyn ei gytundeb tan 2015.
Ond mae Gatland eisoes wedi cyfadde’ bod ganddo opsiynau eraill i’w ystyried, gan gynnwys dychwelyd i Seland Newydd.
Pwysau o ben arall y byd
“Dyw e ond yn deg fy mod i’n gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesa’,” meddai Gatland wrth raglen Scrum V.
“Mae yna lawer o drafodaethau wedi bod gyda Roger Lewis (Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru) dros ymestyn y cytundeb.
“Ond mae’n rhaid i mi ystyried y pwysau gan y teulu i ddychwelyd i Seland Newydd, lle maen nhw’n awyddus i gael eu tad yn ôl.
“Rwy’ i wedi mwynhau fy amser yma, mae wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn heriol ar adegau, ond mae hynny’n rhan o rygbi rhyngwladol. Mae yna ran fawr ohona’ i eisie aros.”
Pe bai Warren Gatland yn aros i arwain Cymru i gystadleuaeth Cwpan y Byd 2015, fe fyddai’r hyfforddwr sydd wedi gwasanaethu Cymru hira’ yn hanes rygbi Cymru.