Fe fydd tîm dan-21 Cymru yn sicr o’u lle yng ngemau ail-gyfle Pencampwriaethau Ewropeaidd os allan nhw osgoi colli yn erbyn yr Eidal nos fory.
Mae tîm Brian Flynn ar frig y tabl – tri phwynt a phedair gôl yn uwch na’r Eidalwyr o flaen y gêm yn Pescara.
Fe fydd Cymru yn llawn hyder yn dilyn buddugoliaeth 1-0 dda yn erbyn Hwngari diolch i gôl gan ymosodwr Reading, Hal Robson Kanu.
Fe fydd y garfan hefyd yn cael hwb gyda’r newyddion bod yn Andy King , Neal Eardley a Simon Church yn ymuno a’r garfan wrth y prif dîm.
Fe fydd Cymru yn gobeithio mynd cam ymhellach yn y rowndiau rhagbrofol tro hwn ar ôl colli i Loegr yn y gemau ail gyfle dwy flynedd yn ôl.
Carfan dan-21 Cymru
David Cornell (Abertawe), Chris Maxwell (Wrecsam), Tom Bender (Colchester Utd), Neal Eardley (Blackpool), Adam Matthews (Caerdydd), Aaron Morris (Aldershot), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Abertawe) Daniel Alfei (Abertawe), David Stephens (Hibernian), Joe Allen (Abertawe), Billy Bodin (Swindon), Mark Bradley (Rotherham Utd), Ryan Doble (Southampton), Andy King (Caerlŷr), Shaun MacDonald (Abertawe), Joe Partington (Bournemouth), Jonathan Williams (Crystal Palace), Elliott Chamberlain (Caerlŷr), Simon Church (Reading), Hal Robson-Kanu (Reading), Jake Taylor (Reading), Marc Williams (Wrecsam).
Llun: Brian Flynn – un hyfforddwr o Gymru sy’n cael llwyddiant