Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies wedi dweud y dylai’r rhanbarth fod wedi ennill eu gêm agoriadol yn y Cynghrair Magners yn erbyn Benetton Treviso dros y penwythnos.
Fe gollodd y Scarlets 34-28 i’r Eidalwyr yn Stadio Comunale di Monigo i sicrhau’r fuddugoliaeth gynta’ erioed i dîm o’r Eidal yng Nghynghrair Magners.
Roedd y rhanbarth Cymreig ar y blaen o 22-9 ar yr hanner, ond yn ôl daeth y tîm cartref i gipio’r fuddugoliaeth hanesyddol.
Dim yn dderbyniol
“Yn amlwg, r’yn ni’n rhwystredig i golli’n gêm agoriadol, yn enwedig wedi hanner agoriadol da,” meddai Nigel Davies.
“Roedd y tîm yn ddigon da i ennill y gêm, ac fe ddylem fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth. Mae pawb yn siomedig iawn ein bod wedi colli.
“Ni oedd â rheolaeth o’r gêm yn yr hanner cynta’. Chwaraewyd nifer o batrymau yr ydyn ni wedi eu hymarfer ar y cae hyfforddi.
“R’yn ni wedi bod yn gweithio’n galed ar batrymau gwahanol; mae’n rhaid i ni fod yn hapus gyda hanner agoriadol y gêm.
“Dyw hi ddim yn dderbyniol i ni golli 18 pwynt yn yr ail hanner – mae’n rhaid i ni reoli’n amser yn well yn yr ail hanner.”
Hapus gyda’r garfan
Er gwaetha’r siom o golli i Treviso, mae Prif Hyfforddwr y rhanbarth yn hapus gyda’i garfan ar gyfer y tymor newydd.
“Rwy’ i wedi dweud fy mod i’n gyfforddus iawn gyda’r garfan ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i ni eu cefnogi,” meddai. “Mae yna ddigonedd o safon yn datblygu ymysg y garfan ac r’yn ni’n gallu edrych yn beryglus gyda’r bêl yn ein dwylo.
“Ond fe ddaeth Treviso i’r cae yn llawer cryfach ar gyfer yr ail hanner, a phob parch iddyn nhw, fe lwyddon nhw i godi momentwm. Cafodd Treviso lot mwy o sgrymiau na ni, llawer mwy o leiniau a dyna’u gêm nhw.”
Llwyddo gartre’
Ond mae Nigel Davies yn targedu’r gêm gartref gyntaf yn erbyn Connacht ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn fel cyfle gwych i daro’n ôl yn syth.
“R’yn ni wedi datgan bod yn rhaid i ni sicrhau llwyddiant yn ein gemau cartre’, ac fe fyddwn ni’n gobeithio gwella hynny ddydd Sadwrn.”