Fe gafodd safle gwe PethauBychain.com dros 29,000 o ymweliadau ddydd Gwener diwethaf ac yn ôl un o’r trefnwyr mae’r digwyddiad wedi rhoi “cyhoeddusrwydd i bethau Cymraeg ar lein”.
Nod cynllun pethau bychain.com oedd dathlu’r iaith Gymraeg ar y we trwy bennu diwrnod (Medi 3) pryd y byddai pobol yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Roedd trefnwyr yn gofyn i bobol wneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.
Gwneud, nid dweud
“Y peth pwysig i mi oedd gweld pobol yn gwneud pethe,” meddai Rhodri ap Dyfrig, un o drefnwyr y diwrnod wrth Golwg360.
“Roedd pobol wnaeth gyfrannu yn dweud fod lot mwy wedi bod i ymweld â’u blogiau nhw. Roedd llawer o bobol newydd wedi ymuno â Twitter, a thri neu bedwar o flogiau newydd wedi’u creu.
“Mae o wedi gwneud mwy nag oedden ni wedi’i obeithio. Arbrawf i’r we Gymraeg annibynnol oedd o, ac mae wedi cynyddu ymwybyddiaeth.
“Mae’n dangos bod yna le i’r math yma o ddiwrnod a digwyddiad i dynnu pethe at ei gilydd,” meddai Rhodri ap Dyfrig.
Y ffigyrau
* Fe gafodd gwefan PethauBychain.com 29,076 o hits.
* Fe gafodd 492mb o ddata ei throsglwyddo, ac fe wnaeth 179 o bobol lawrlwytho’r app ar gyfer eu ffonau poced.
* Roedd 1,300 o sylwadau yn ‘trydar’ am y digwyddiad ar Twitter, gan 200 o bobol wahanol.