Mae Ysgrifennydd Cartref llywodraeth San Steffan wedi cefnogi’r heddlu am ddweud y bydden nhw’n ymchwilio ymhellach i honiadau fod papur dydd Sul wedi bod yn gwrando ar sgyrsiau ffôn preifat.

Fe fydd y llywodraeth yn aros i weld sut y bydd yr achos yn datblygu cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd, meddai Theresa May.

Roedd hi’n ymateb i gwestiwn brys yn y Senedd heddiw, pan ddywedodd bod Heddlu Llundain wedi dweud “os oes mwy o dystiolaeth, fe fyddwn yn ymchwilio i’r mater”.

Gorfodaeth

Yr Aelod Llafur Tom Watson oedd wedi gorfodi Theresa May i ddod i Dy’r Cyffredin heddiw i ateb y cwestiwn. Mae o’r farn na ddylai’r Ysgrifennydd ymuno â’r “cynllwyn” i danseilio ein democratiaeth.

Fe alwodd arni i gadarnhau p’un ai oedd y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi gofyn i’r heddlu gadarnhau os oedd ei ffôn ef wedi ei dapio.