Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i gwblhau ail gam prif ffordd trafnidiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael sêl bendith, meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Mae’r cynlluniau’n debygol o greu “cannoedd” o swyddi newydd, meddai Ieuan Wyn Jones wrth gyhoeddi’r newydd heddiw.

Fe fydd £107m o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ac arian Ewrop yn galluogi cwblhau’r ffordd a fydd yn cysylltu’r M4 ar gyffordd 38 gyda’r dociau ym Mhort Talbot, a bydd yn gyswllt mwy cyffredinol i orllewin Cymru.

Fe fydd yn creu hyd at 600 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu o 33 mis, yn ôl Ieuan Wyn Jones.  

Buddsoddiad

“Er gwaetha’r cyfnod economaidd heriol, rydym yn benderfynol i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf fydd yn dod â manteision economaidd strwythurol a hirdymor,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gwella amseroedd teithio, lleihau tagfeydd, yn annog buddsoddiad pellach, creu swyddi ac yn adfywio rhanbarth De Orllewin Cymru.”

Ardderchog i’r ardal

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i Gastell Nedd Port Talbot,” meddai’r Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot.

“Bydd y ffordd strategol hon yn darparu ffordd ddeniadol i’r dref ac yn cynnig cyfleoedd datblygu ar hyd lan y dŵr a chanol tre’ Port Talbot.”