Fe allai trafodaethau “allweddol” yr wythnos hon osgoi mwy o streicio gan staff British Airways. Dyna’r gobaith, beth bynnag.

Mae cyfarfodydd wedi eu trefnu rhwng rheolwyr y cwmni hedfan ac undeb Unite yn ystod cynhadledd flynyddol Cyngres yr Undebau Llafur yr wythnos hon.

Mae arweinwyr Unite, Tony Woodley a Derek Simpson, yn gobeithio cynnal trafodaethau o’r newydd ym Manceinion, lle bydd cannoedd o weithwyr undeb yn cyfarfod.

Fe ddaeth y newydd am y cyfarfod heddiw, yn dilyn cyfarfod o dros 1,000 o weithwyr caban, lle trafodwyd y ffrae chwerw gyda BA. Fe ddechreuodd y ffrae dros flwyddyn yn ôl, yn gynta’ dros gynlluniau toriadau ariannol.

Rhubanau melyn

Fe fydd nifer fydd yn mynychu’r cyfarfod yn gwisgo rhubanau melyn, er mwyn dangos eu cefnogaeth i’w cydweithwyr sydd wedi cael y sac neu wedi eu disgyblu yn gynharach eleni.

“Dydi’r anghydfod yma ddim wedi cael ei ddatrys, ac mae’n fyw iawn, ond rydyn ni’n obeithiol y bydd cyfarfod ym Manceinion yr wythnos nesa’ yn rhoi pwysau eto ar y ddwy ochr i drafod eto,” meddai llefarydd ar ran Unite.