Mae Tony Blair wedi canslo sesiwn arwyddo’i hunangofiant, wedi iddi ddod i’r amlwg fod yna brotestwyr yn bwriadu codi stwr o flaen y siop yn Llundain.
Roedd cyn-Brif Weinidog Prydain yn bwriadu ymweld â Waterstone’s yn ardal Piccadilly, Llundain, ddydd Mercher – ond roedd ymgyrchwyr yn erbyn rhyfel wedi addo rhoi croeso llugoer iddo yno.
Mewn datganiad, mae Tony Blair wedi dweud nad oedd am achosi “hasl” i bobol na’r heddlu, ac felly ei fod am gadw draw o’r ardal a chanslo’r sesiwn arwyddo ei hunangofiant, A Journey.
Pan fu yn Nulyn yn arwyddo’r llyfr, fe gafodd esgidiau ac wyau eu taflu ato gan brotestwyr, ac fe geisiodd un protestiwr ei arestio.
Penderfyniad
“Dw i wedi penderfynu peidio cynnal y sesiwn, gan nad ydw i eisiau creu anghyfleustra i’r cyhoedd,” meddai Tony Blair yn ei ddatganiad.
“Dw i ddim eisiau rhoi mwy o straen ar adnoddau’r heddlu, dim ond ar gyfer sesiwn arwyddo llyfr… Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn deall pam fy mod i wedi dod i’r penderfyniad yma.”