Mae Dai Greene wedi agosâu at dorri record Brydeinig Kriss Akabusi ar ôl iddo redeg y 400m dros y clwydi o dan 48 eiliad am y tro cynta’ yn ei yrfa.
Fe enillodd y Cymro’r Cwpan Cyfandirol yn Split ddoe mewn 47.88 eiliad, gan guro Javier Culson a Bershawn Jackson a orffennodd yn ail ac yn drydydd ym Mhencampwriaethau’r Byd y llynedd.
Dyw amser diweddara’r athletwr o Lanelli yn ddim ond 0.06 eiliad yn arafach na record Brydeinig Akabusi.
Ond mae’r fuddugoliaeth yn arwyddocaol am iddo guro dyn cyflymaf dros y clwydi eleni, sef yr Americanwr Bershawn Jackson. Doedd Jackson ddim wedi colli mewn wyth ras cyn wynebu Greene yn Split.
Y gystadleuaeth fawr nesa’ i Dai Greene Gemau’r Gymanwlad yn Delhi y mis nesa’, lle mae disgwyl iddo ddod â’r fedal aur gartre’ i Gymru.