Mae gweinidog tramor Israel wedi cadarnhau y bydd ei blaid yn gwrthwynebu unrhyw fwriad i arafu’r nifer o setliadau Iddewig sy’n cael eu codi. Fe allai’r penderfyniad gael effaith negyddol ar broses heddwch y Dwyrain Canol.

Mae Avigdor Lieberman yn dweud y dylai llyworaeth Israel anrhydeddu’r addewid maen nhw wedi’i roi i beidio â chodi cymaint o dai. Fe wnaethpwyd yr addewid hwnnw dan bwysau gan yr Unol Daleithiau, meddai, ond fe fydd yn dod i ben ddiwedd y mis hwn.

Medi 26 oedd y dedlein gafodd ei osod yn y trafodaethau yn Washington yr wythnos ddiwetha’. Mae’r Palesteiniaid wedi dweud y byddan nhw’n tynnu allan o’r trafodaethau os y bydd yr adeiladu’n parhau. Ar y llaw arall, fe allai parhau â’r addewid ddymchwel llywodraeth Israel.

Dyw Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ddim wedi dweud eto sut y bydd e’n ddelio â’r sefyllfa.

Fe ddywedodd Lieberman wrth Army Radio heddiw fod y trafodaethau newydd yn creu gormod o ddisgwyliadau, a bod y gobaith o drafod ac arwyddo cytundeb heddwch o fewn blwyddyn, yn amhosib.

Llun: Benjamin Netanyahu