Yn Japan heddiw, mae dau brotestiwr amgylcheddol wedi derbyn dedfryd o flwyddyn o garchar wedi ei ohirio, am ddwyn cig morfil y maen nhw’n honni oedd wedi ei ladd yn anghyfreithlon.

Fe’u cafwyd nhw’n euog o ladrata 50 pwys o gig morfil o warws cwmni dosbarthu ddwy flynedd yn ôl. Roedd y morfil wedi eu lladd yn ystod helfeydd ymchwil a gafodd eu cefnogi gan lywodraeth Japan.

Mae ymgyrchwyr yn dweud mai ffrynt ydi’r term ‘helfa ymchwil’ i hela morfilod er mwyn gwerthu’r cig, gan fod y rhan fwya’ o’r cig yn ffeindio’i ffordd i fwytai, siopau a phlatiau cinio mewn ysgolion.

Fydd Junichi Sato, 33, a Toru Suzuki, 43, ddim yn treulio amser dan glo.

Fe blediodd y ddau’n ddi-euog i’r cyhuddiad, ond fe bledion nhw’n euog i dresbasu. Fe fyddan nhw’n apelio yn erbyn y ddedfryd.