Mae wedi dod i’r amlwg fod dros 200 o beilotiaid oedd yn gweithio i gwmnïau awyrennau yn China, wedi dweud celwydd wrth greu eu CVs.
Roedd dros eu hanner nhw’n gweithio i’r prif gwmni oedd yng nghanol trychineb awyr waetha’r wlad.
Mae canlyniadau’r ymchwil a gafodd ei wneud yn 2008-09 yn dangos fod cwmnïau hedfan mor despret am staff, nes eu bod nhw’n fodlon cyflogi peilotiaid oedd yn dweud celwydd ynglyn â pha mor brofiadol oedden nhw.
Mae’r adroddiad sy’n datgelu hyn yn cael ei gyhoeddi wrth i’r asiantaeth sy’n ymchwilio i fesurau diogelwch yn dilyn y ddamwain awyren ar Awst 24, pan laddwyd 42 o bobol yng ngogledd-ddwyrain China. Dyna’r ddamwain awyren waetha’ yn y wlad ers rhai blynyddoedd.
Fe gafodd 54 o bobol eraill eu hanafu pan syrthiodd awyren y cwmni Henan i’r ddaear yn rhanbarth Heilongjiang.