Mae’r Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, wedi addo gwell rheolaeth ar fewnfudo i’r Deyrnas Unedig.

Mae wedi cyhoeddi ymchwil sy’n dangos bod degau ar filoedd o bobol sy’n dod i mewn i ar fisas myfyrwyr yn dal i fyw yn y wlad bum mlynedd yn ddiweddarach.

Fe fydd yn edrych yn arbennig ar y myfyrwyr sy’n dod i mewn i wneud cyrsiau heblaw rhai prifysgol – ar Radio Wales heddiw, fe awgrymodd bod rhai o’r rheiny’n gyrsiau ffug.

Mae’r Gweinidog Mewnfudo yn addo edrych ar bob llwybr mewn i’r Deyrnas Unedig gan osod rheolau newydd i sicrhau mai dim ond y mewnfudwyr “gorau” fydd yn cael dod i mewn i astudio a gweithio.

Y cefndir

Roedd mwy na 30,000 o fyfyrwyr wedi cael fisas i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig y llynedd.

Roedd y Swyddfa Gartref wedi comisiynu ymchwil i edrych ar bawb oedd wedi cael eu gadael i mewn i’r wlad yn 2004 a dilyn eu statws pum mlynedd yn ddiweddarach.

O’r 186,000 o fyfyrwyr a gafodd ddod i mewn yn 2004, mae 37,000 ohonynt yn dal i fyw yn y Deyrnas Unedig.