Mae cyffur poblogaidd i drin clefyd y siwgr yn dal i gael ei ddefnyddio dau fis ar ôl i gorff diogelu argymell ei atal oherwydd pryderon diogelwch.
Roedd The British Medical Journal (BMJ) wedi galw am roi’r gorau i ddefnyddio’r cyffur Avandia gan ddweud ei fod yn cynyddu’r peryg o glefyd y galon.
Roedd y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol hefyd wedi argymell atal y cyffur oherwydd bod y “risgiau’n fwy ‘na’r lles”.
Ond fe fydd rhaglen deledu Panorama heno’n awgrymu bod y cyffur, sy’n cael ei gynhyrchu gan Glaxo SmithKline, yn parhau i gael ei ddefnyddio i helpu lleihau lefelau siwgr yng ngwaed cleifion sydd â math dau o glefyd y siwgr.
Y ddadl
Fe gafodd y cyffur ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn 2000 ac, yn ôl Glaxo SmithKline, roedd “gwaith ymchwil trylwyr” wedi dangos bod y cyffur yn “ddiogel ac yn effeithiol” pan fydd yn cael ei ddefnyddio’n gywir.
Mae gwefan y cwmni’n cynnwys rhybudd y gall Avandia, dan rai amodau, achosi neu waethygu clefyd y galon. Ond mae hefyd yn cyhoeddi straeon nifer o gleifion sy’n dweud bod y cyffur yn gweithio.
Er hynny, yn ôl Dr Deborah Cohen, golygydd ymchwiliadau’r BMJ, dyw’r broses gymeradwyo Ewropeaidd ddim yn ddigon trylwyr.
Ac fe fydd arbenigwr arall yn dweud wrth y rhaglen y gallai’r cyffur fod yn achosi cymaint â 1,000 yn rhagor o achosion o drawiad y galon a 600 achos o ddiffyg ar y galon yng ngwledydd Prydain mewn blwyddyn.
Llun: Gwefan Avandia’n dangos cleifion ‘bodlon’