Fe fydd y gwrthbleidiau’n ceisio chwalu cynlluniau’r Llywodraeth i newid y drefn gydag etholiadau … ond mae’n ymddangos na fydd gwrthryfel mawr o gyfeiriad Ceidwadwyr anfodlon.
Fe fydd ASau’n mynd yn ôl i Dŷ’r Cyffredin heddiw i drafod y mesur sy’n cwtogi ar nifer y seddi seneddol ac yn caniatáu refferendwm ar y drefn AV – y Bleidlais Amgen.
Mae Llafur yn gobeithio manteisio ar anniddigrwydd ymhlith rhai Ceidwadwyr wrth gynnig nifer o welliannau i’r mesur ac fe fydd Plaid Cymru a phlaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, hefyd yn gwrthwynebu.
Ond mae’n ymddangos bod y bygythiad o wrthryfel eang gan Geidwadwyr yn lleihau – o leia’ yn ystod yr Ail Ddarlleniad i ganiatáu i’r mesur fynd ymlaen i’r lefel nesa’.
Rhesymau tros y gwrthwynebiad
Mae Llafur yn erbyn oherwydd bod y mesur yn cyplysu AV gyda bwriad i ostwng nifer y seddi seneddol o 650 i 600, gyda gostyngiad o 11 yng Nghymru.
Mae Plaid Cymru – a rhai Ceidwadwyr – yn anhapus gyda’r bwriad i gynnal y refferendwm pleidleisio’r un diwrnod ag etholiadau nesa’r Cynulliad, ar 5 Mai 2011.
Roedd AS y Blaid, Jonathan Edwards, hefyd yn cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o lastwreiddio eu galwadau am bleidleisio cyfrannol – dyw AV ddim yn cael ei ystyried yn fersiwn llawn o hynny.
Mae Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r bwriad i dorri nifer y seddi seneddol nes y bydd grym tros y system gyfreithiol, darlledu a’r gallu i godi trethi wedi eu datganoli.
Er bod 43 o Geidwadwyr wedi arwyddo cynnig yn erbyn dyddiad y refferendwm pleidleisio, mae gwasanaeth newyddion y PA yn awgrymu mai ychydig ohonyn nhw sy’n debyg o wrthryfela.
Llun: Ty’r Cyffredin (Iliff CCA2.5)