Mae’r pwysau’n cynyddu ar Gyfarwyddwr Cyfathrebu’r Prif Weinidog tros honiadau fod papur y News of the World wedi bod yn hacio negeseuon ffôn gwleidyddion ac enwogion.
Mae heddlu Scotland Yard yn dweud eu bod yn fodlon ystyried unrhyw dystiolaeth newydd yn erbyn y papur ac Andy Coulson, a oedd yn olygydd ar y News of the World ar y pryd.
Yn ôl y Comisiynydd Cynorthwyol, John Yates, maen nhw wedi gofyn i bapur y New York Times am gynnwys cyfweliadau gyda chyn newyddiadurwyr y News of the World.
Roedd un, Sean Hoare, wedi dweud yn bendant bod Andy Coulson ei hun wedi gofyn iddo hacio negeseuon.
Er hynny, mae’r Ceidwadwyr yn ceisio amddiffyn y dyn a gafodd ei recriwtio gan y Prif Weinidog ei hun i fod yn gyfrifol am ei adran gyfathrebu.
Y gwrthdaro gwleidyddion
Mae Andy Coulson yn gwrthod yr honiadau ac roedd yr Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, yn cyhuddo’r papurau a’r Blaid Lafur o “ailgylchu” hen honiadau.
Mae pob un o’r pum ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid wedi galw am ymchwiliad newydd i’r honiadau.
Yn ôl Heddlu Llundain, maen nhw’n cadw at eu datganiadau cynharach, y byddan nhw’n fodlon ymchwilio i unrhyw dystiolaeth newydd.
Fe fyddan nhw hefyd yn ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ynglŷn â’r honiadau diweddara’.