Fe fydd yr achos llys yn erbyn yr Aelod Cynulliad, Mick Bates, yn dechrau heddiw yn Llys Ynadon Caerdydd.
Mae AC Maldwyn wedi ei gyhuddo o ymosod ar dri pharafeddyg ar ôl disgyn i lawr y grisiau yn hwyr y nos yng Nghaerdydd.
Fe ddioddefodd Mick Bates anaf i’w ben yn ogystal â chael ei daro’n anymwybodol ar ôl disgyn ar noson allan ym mis Ionawr.
Mae gwleidydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwadu tri chyhuddiad o ymosod ar y parafeddygon a gafodd eu galw i’w drin.
Fe gafodd Mick Bates ei wahardd gan ei blaid, y Democratiaid Rhyddfrydol, ar ôl cael ei gyhuddo ac fe fydd yn aros wedi’i wahardd tan ddiwedd yr achos.
Mae disgwyl i’r achos barhau am ddau ddiwrnod.
Llun: Mick Bates