Mae’r cyhoeddiad y mudiad milwrol ETA i roi’r gorau i ymgyrchu arfog yng Ngwlad y Basg wedi cael ei wrthod gan lywodraeth y wlad.
Dyw’r datganiad ar fideo ddim yn mynd yn ddigon pell, meddai gweinidogion yn y llywodraeth ddatganoledig yng ngogledd-orllewin Sbaen.
Maen nhw’n galw ar i’r mudiad roi’r gorau i drais yn llwyr ac addo rhoi’r gorau i weithredu terfysgol.
Mae’r llywodraeth ganol yn Sbaen hefyd yn ceisio rhoi rhagor o bwysau ar ETA gan ddweud bod rhaid i’r mudiad ei ddiddymu ei hun.
Yn ystod y misoedd diwetha’, mae hyd yn oed rhai o bleidiau cenedlaetholgar Gwlad y Basg wedi bod yn galw ar ETA i droi at ddulliau heddychlon – mae’r mudiad wedi bod yn defnyddio trais ers mwy na 40 mlynedd.
Parhaol
Er eu bod wedi cyhoeddi cadoediadau o’r blaen, mae’r rheiny wedi eu torri a doedd y datganiad ddoe ddim yn ei gwneud hi’n glir pa mor barhaol oedd yr addewid i roi’r gorau i drais.
Fe gafodd ei wneud trwy fideo a roddwyd i’r BBC – roedd yn dangos tri pherson mewn mygydau o flaen arwydd gyda logo ETA.
Eu nod yw cael gwladwriaeth annibynnol ar gyfer y rhannau o’r wlad sydd yn Sbaen a de-ddwyrain Ffrainc. Y gred yw eu bod wedi lladd mwy nag 800 o bobol ers yr 1960au.
Roedd eu hymosodiad mawr diwetha’ ar swyddfa heddlu ym Mallorca ym mis Gorffennaf 2009.
Llun: Slogan yng Ngwlad y Basg (AP Photo)