Mae Aelod Seneddol y Rhondda wedi condemnio’r heddlu am fethu ag ymchwilio’n iawn i honiadau fod papur newydd y News of the World yn hacio i mewn i ffonau symudol.
Ac mae Chris Bryant wedi galw ar y Prif Weinidog David Cameron i roi’r sac i’w brif swyddog y wasg, Andy Coulson, golygydd y papur ar y pryd.
Ddoe fe ddatgelodd Chris Bryant fod y papur wedi ei dargedu yntau – roedd Heddlu Llundain wedi cydnabod wrtho eu bod wedi dod ar draws gwybodaeth amdano wrth ymchwilio i’r helynt.
Roedd y dystiolaeth yn ymwneud â 2003 pan gafodd yr AS sylw am gyhoeddi llun ohono’i hun yn ei ddillad isa’ ar wefan i bobol hoyw.
Yn awr, mae Chris Bryant yn dweud nad yw’r heddlu wedi ymchwilio i’r honiadau “gyda dim byd tebyg i holl rym y gyfraith”.
Targedi
Mewn erthygl ar wefan y Guardian, fe ddywedodd bod tua 3,000 o bobol yn rhan o’r helynt a bod yr heddlu fel petaen nhw’n fodlon i’r hacio ddigwydd.
Roedden nhw wedi erlyn un o newyddiadurwyr y papur a ditectif preifat am hacio i mewn i ffonau symudol rhai o’r teulu brenhinol ond fel petaen nhw’n ystyried bod pawb arall yn dargedi teg.
Mae’r rheiny’n cynnwys y cyn ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, sy’n bygwth cymryd camre cyfreithiol yn erbyn yr heddlu.
“Yr elfen sy’n achosi mwya’ o bryder yw y bydd yr arferion hyn yn parhau os na fydd yr heddlu’n gweithredu’n briodol,” meddai Chris Bryant yn y Guardian.
“Ac os na fydd David Cameron yn sacio Coulson, fe fydd yn amlwg yn cyfiawnhau peth o’r wleidyddiaeth futra’ ym Mhrydain.”
Ymchwiliad y New York Times
Mae papur y New York Times yn yr Unol Daleithiau newydd gyhoeddi adroddiadau maith ar ôl ymchwilio am bum mis i’r cyhuddiadau.
Maen nhw’n dyfynnu cyn newyddiadurwyr ac eraill sy’n dweud bod yr arfer o hacio’n gyffredin iawn o fewn y papur newydd.
Mae penaethiaid y News of the World wedi gwadu’r honiadau’n llwyr gan awgrymu fod y dystiolaeth yn anniogel a bod y New York Times yn dangos rhagfarn yn erbyn perchnogion y NofW, sydd hefyd yn berchnogion ar y Wall Street Journal.
Llun: Chris Bryant