Ddylai pobol sy’n diodde’ o’r dolur rhydd neu sydd newid ddod trosto ddim mynd i nofio mewn pyllau cyhoeddus, meddai arbenigwyr iechyd ar ôl i fwy na 100 o bobol gael eu heintio.

Fe ddangosodd ymchwiliad i achos eang o wenwyn Cryptosporidiwm ym Merthyr Tudful y llynedd ei fod wedi ei achosi gan blentyn yn cael ‘damwain’ ar sleid dŵr.

Roedd 106 o bobol a phlant wedi mynd yn sâl o ganlyniad i’r digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Merthyr ym mis Awst 2009.

Cyngor

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud sawl argymhelliad i geisio atal digwyddiadau o’r fath gan gynnwys rhoi cyngor i’r defnyddwyr eu hunain.

“Mae’r achosion os alwch yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobol sy’n diodde’ o’r dolur rhydd neu sydd wedi ei gael o fewn y 48 awr diwetha’, beidio â mynd i nofio,” meddai Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru, cadeirydd yr ymchwiliad.

Roedd hi hefyd yn pwysleisio bod angen i rieni sicrhau fod dwylo a phenolau eu plant yn lân cyn mynd â nhw i nofio.

Llun: Lle bu’r salwch – Canolfan Hamdden Merthyr Tudful (O wefan y Cyngor Sir)