Mae o leiaf 23 o bobol wedi cael eu lladd mewn dau ymosodiad ar leiafrifoedd crefyddol ym Mhacistan.
Cafodd 22 eu lladd yn ninas Quetta, wedi i fom ffrwydro wrth i orymdaith o’r gymuned Shiaidd fynd heibio. Roedd y protestwyr yn galw ar i bobol ddangos cefnogaeth i’r Palesteiniaid.
Roedd nifer fawr wedi cael eu hanafu yn ogystal, a rhai yn ddifrifol, yn ôl adroddiadau o’r ardal.
Roedd yr ail ymosodiad wedi taro Mosg yn nhref Mardan, a chafodd o leiaf un person o’r enwad lleiafrifol Ahmadi ei ladd. Cafodd nifer eu hanafu.
‘Dim ymateb treisgar’
Mae arweinydd crefyddol, Allama Abbas Kumaili, wedi galw ar i bobol beidio ag ymateb yn dreisgar i’r ymosodiad, gan ddweud ei fod yn ymgais i greu gwrthdaro rhwng y cymunedau Shiaidd a Sunni.
Er hynny, mae’n ymddangos bod rhai pobol ifanc o’r gymuned Shiite wedi bod ar y strydoedd yn tanio gynnau tua’r awyr.
Dyma’r ail ymosodiad yr wythnos yma ar y gymuned Shiiaidd. Cafodd 35 o bobol eu lladd yn ninas Lahore ddydd Mercher. Taliban y Sunni ym Mhacistan oedd wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad hwnnw.
Llun: Dinas Quetta yn y nos (Ajmalahmedkhan – Trwydded GNU)