Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn mynnu y bydd rhaid i is-ganghellor newydd y Brifysgol fod yn gallu siarad Cymraeg.

Gyda Phrifysgol Bangor newydd benodi prifathro di-Gymraeg, mae’r myfyrwyr yn dweud bod angen i’w pennaeth newydd nhw fod yn ddwyieithog.

“Mae’n bwysig fod y Brifysgol yn gwneud datganiad clir o’i hymrwymiad tuag at y Gymraeg trwy benodi is-ganghellor fydd yn medru arwain yn effeithiol a chyfathrebu’n glir drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai’r Llywydd, Rhiannon Wade.

Fe fyddai penodi is-ganghellor nad yw’n deall y diwylliant Cymraeg “yn ddim byd mwy na sarhad ar yr ardal a’i phobol,” medden nhw wedyn, gan ddweud bod angen ymrwymiad hefyd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac i’r Coleg Ffederal newydd arfaethedig.

Y cefndir

Mae’r Is-ganghellor presennol, yr Athro Noel Lloyd, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol yn 2011 – ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth wrth Golwg 360 na allai gadarnhau a fyddai’r gallu i siarad Cymraeg yn un o’r cymwysterau angenrheidiol i’r swydd.

Roedd yna ddadlau mawr pan waeth Prifysgol Bangor hysbysebu am is-ganghellor newydd heb ofyn am y gallu i siarad Cymraeg. Cafodd y Brifysgol ei beirniadu hefyd gan Fwrdd yr Iaith am fynd “yn groes i ysbryd” eu cynllun iaith eu hunain.